{"product_id":"chwarter-canrif-o-addysg-ddatganoledig-yng-nghymru-9781837723935","title":"Chwarter Canrif o Addysg Ddatganoledig yng Nghymru","description":"\u003cp\u003eWrth i Gymru nodi chwarter canrif o lunio polisïau datganoledig ym maes addysg, mae'r gyfrol olygiedig hon yn dathlu’r llwyddiannau ac yn bwrw golwg feirniadol ar yr heriau parhaus a wynebir gan gyfundrefn addysg Cymru. Mae ymchwilwyr o bob cwr o dirlun addysg y DU yn mynd i’r afael â chwestiynau tyngedfennol am arweinyddiaeth diwygio; am bwy sy’n gyfrifol dros weithredu effeithiol agweddau arloesol ar bolisi ôl-ddatganoledig (megis y Cyfnod Sylfaen a’r Cwricwlwm i Gymru); am natur a pherchnogaeth atebolrwydd; am sut y gellir datblygu a chefnogi gweithwyr proffesiynol orau er mwyn cyflawni’r daith ddiwygio uchelgeisiol bresennol; a llawer mwy. Mewn ymateb i’r cwestiwn oesol ‘Pwy a gyfyd Cymru?’, mae’r gyfrol bresennol yn awgrymu mai cyfrifoldeb pob un ohonom yw gwneud hynny, ar bob lefel ac ar draws pob agwedd o gyfundrefn addysg sy’n parhau i esblygu ac sy’n wahanol iawn i’r hyn a fodolai cyn datganoli.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eISBN-13\u003c\/strong\u003e: 9781837723935\u003c\/p\u003e","brand":"University of Wales Press","offers":[{"title":"Paperback","offer_id":50078040162554,"sku":"9781837723935","price":23.59,"currency_code":"GBP","in_stock":true}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0522\/4297\/2845\/files\/noImage_2_a22377b1-b302-4905-b9c5-b9c4cdbecc04.jpg?v=1786811281","url":"https:\/\/shulphink.com\/products\/chwarter-canrif-o-addysg-ddatganoledig-yng-nghymru-9781837723935","provider":"Shulph Ink","version":"1.0","type":"link"}