{"product_id":"cranogwen-9781837720255","title":"Cranogwen","description":"\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eFormat\u003c\/strong\u003e: Paperback \/ softback\u003cbr\u003e\u003cstrong\u003eLength\u003c\/strong\u003e: 256 pages\u003cbr\u003e\u003cstrong\u003ePublication date\u003c\/strong\u003e: 15 April 2023\u003cbr\u003e\u003cstrong\u003ePublisher\u003c\/strong\u003e: University of Wales Press\u003cbr\u003e\u003c\/p\u003e \u003cp\u003eYn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.\r\n\r\n\r\nCyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.\u003c\/p\u003e\u003cp\u003e\u003cstrong\u003eWeight\u003c\/strong\u003e: 346g\u003cbr\u003e\u003cstrong\u003eDimension\u003c\/strong\u003e: 138 x 217 x 19 (mm)\u003cbr\u003e\u003cstrong\u003eISBN-13\u003c\/strong\u003e: 9781837720255\u003c\/p\u003e","brand":"Jane Aaron","offers":[{"title":"Paperback \/ softback","offer_id":44256273268986,"sku":"9781837720255","price":16.65,"currency_code":"GBP","in_stock":false}],"thumbnail_url":"\/\/cdn.shopify.com\/s\/files\/1\/0522\/4297\/2845\/products\/1685097716810_book.jpg?v=1685194071","url":"https:\/\/shulphink.com\/products\/cranogwen-9781837720255","provider":"Shulph Ink","version":"1.0","type":"link"}